Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

 

Ymchwiliad i iechyd y geg ymhlith plant

Ystyried effeithiolrwydd rhaglen Llywodraeth Cymru Cynllun Gwên o ran gwella iechyd y geg i blant yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig.

 

Tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Diben

 

1. Mae'r papur hwn yn amlinellu'r cefndir i'r gwaith o gyflwyno rhaglen iechyd y geg Cynllun Gwên, yn rhoi'r newyddion diweddaraf ar ddatblygiadau cyfredol, ac yn ymateb i'r saith pwynt y mae'r Pwyllgor yn ceisio barn arnynt.   

 

Cefndir

 

2. Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd y geg. Dengys ffigurau bod dros 50 y cant o blant pump oed yng Nghymru wedi cael problemau pydredd dannedd. Yn ogystal, mae arolygon epidemiolegol deintyddol wedi dangos bod clefyd deintyddol wedi gwaethygu ymhlith y plant hynny sy'n dioddef o'r clefyd. Mae'r sefyllfa'n waeth mewn ardaloedd difreintiedig. Mae hyn yn annerbyniol o gofio y gellir osgoi pydredd dannedd drwy wella deiet a maeth, ac annog plant bach i ddatblygu'r arfer o frwsio eu dannedd ddwywaith y dydd gyda phast dannedd fflworid.

 

3. Mae bwlch cynyddol rhwng iechyd y geg ymhlith plant o'r teuluoedd mwyaf difreintiedig a'r rhai lleiaf difreintiedig yng Nghymu. O dan y strategaeth Dileu Tlodi Plant yng Nghymru - Mesur Llwyddiant, y targedau deintyddol a bennwyd yw y bydd iechyd deintyddol plant 5 a 12 oed yn y bumed ran fwyaf difreintiedig o'r boblogaeth yn gwella o gymharu â'r hyn a geir ar hyn o bryd yn y bumed ran ganol. Credwn fod y targedau hyn yn realistig os gallwn sicrhau bod mwy o ddannedd yn dod i gysylltiad â fflworid

 

4. Mae pydredd dannedd yn glefyd ffordd o fyw sydd ag amryfal achosion. Roedd angen gwella hylendid y geg a sicrhau ei bod yn haws cael gafael ar fflworid er mwyn cymryd camau tuag at wella iechyd y geg a chyrraedd ein targedau iechyd deintyddol. Roedd yn amlwg bod angen defnyddio dulliau mwy uniongyrchol ac arloesol o ddarparu gofal ataliol er mwyn sicrhau gwelliant yn iechyd y geg ymhlith plant. Gan na chaiff cyflenwadau dŵr eu fflworeiddio yng Nghymru roedd angen i ni sicrhau bod mwy o ddannedd yn dod i gysylltiad â fflworid drwy ddulliau amgen. Bwriad rhaglen Cynllun Gwên oedd cyflawni'r nod hwnnw yng Nghymru drwy dargedu plant bach yn yr ardaloedd lle mae'r angen mwyaf ac adeiladu ar sail y rhaglen Selio Tyllau a oedd wedi bod ar waith ers 2001/02.

 

5. O dymor ysgol hydref 2008, cyflwynwyd Cynllun Gwên mewn dwy ardal 'uwch-beilot' yn cwmpasu rhanbarth y Gogledd a rhan sylweddol o ganol de Cymru. Targedir y cynllun a rhoddir blaenoriaeth i ardaloedd ar sail data amddifadu ac epidemiolegol ar iechyd y geg a ddarparwyd gan Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru (WOHIU).

 

6. Y nod cychwynnol oedd sefydlu cynllun brwsio dannedd o dan oruchwyliaeth, gan ddefnyddio past dannedd fflworid, i blant rhwng tair a phump oed. Yn y tymor hwy y nod oedd datblygu ac ymestyn y rhaglen i gwmpasu Cymru gyfan.

 

7. Cyflwynir Cynllun Gwên gan y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol (CDS) sydd â chryn brofiad o hybu iechyd y geg. Mae ei rôl ychwanegol yn y fenter hon yn canolbwyntio ar gyflawni rhaglenni ychwanegu fflworid a gwella gofal i blant sy'n dioddef o bydredd dannedd cronig. Mae'n bwysig pwysleisio bod Cynllun Gwên yn golygu mwy na dysgu plant sut i frwsio eu dannedd. Mae'r cynllun hefyd yn cyflawni ymyriadau clinigol uniongyrchol y dangoswyd eu bod yn atal pydredd - sef rhaglen cyflenwi fflworid yn y bôn.

 

8. Ym mis Hydref 2009 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod y cynllun yn cael ei ymestyn i ardaloedd difreintiedig ym mhob rhan o Gymru. Yn ogystal â chyflwyno'r cynllun y tu hwnt i'r ardaloedd peilot presennol, cafodd y cynllun ei ymestyn i gynnwys plant chwech oed yn ogystal â phlant rhwng tair a phump oed a rhaglen meithrinfeydd i'r plant ifancaf o dan dair oed o ganlyniad i'r arian ychwanegol.

 

Defnyddio'r rhaglen Cynllun Gwên

 

9. Mae'r WOHIU yn gyfrifol am gasglu a choladu data o'r rhaglen. Y data (rhagarweiniol) diweddaraf ar gyfer y rhaglen brwsio dannedd o dan oruchwyliaeth o fis Mawrth 2011 yw'r canlynol:

 

 

10. Rhoddir rhagor o fanylion am y defnydd o'r rhaglen yn Atodiad A. Dengys y ffigurau yn Atodiad B leoliad ysgolion a meithrinfeydd sy'n cymryd rhan yn yr ardaloedd 'uwch-beilot' yn ystod y cyfnod adrodd blaenorol (Mawrth 2010), wedi eu gosod dros fap yn nodi ardaloedd lleol yn ôl sgorau amddifadedd yn deillio o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (ardaloedd tywyllach = ardaloedd mwy difreintiedig)

 

A yw buddsoddiad wedi sicrhau deilliannau iechyd gwell i'r rhai mwyaf difreintiedig

 

11. Mae'n rhy gynnar eto i gadarnhau a yw rhaglen Cynllun Gwên yn sicrhau deilliannau iechyd gwell i blant. Mae gennym dystiolaeth fod nifer dda o blant yn yr ysgolion a dargedwyd wedi defnyddio'r rhaglen ond bydd yn rhaid i ni aros am ganlyniad arolygon epidemiolegol o blant yn y dyfodol i gadarnhau a yw pydredd dannedd ymhlith plant yng Nghymru wedi lleihau. 

 

12. Fodd bynnag, mae'r ymyriadau ataliol a ddefnyddir yn y cynllun yn gryf ac wedi eu sefydlu'n dda. Mae Cynllun Gwên yn debyg iawn i'r Rhaglen 'Childsmile' sydd wedi bod ar waith mewn cymunedau difreintiedig ledled yr Alban ers 2005. Mae astudiaethau diweddar yn yr Alban (2009/10) yn dangos tystiolaeth bod nifer yr achosion o dyllau a phydredd yn y dannedd wedi lleihau dros amser, ac mae'r canlyniadau yn arbennig o amlwg yn y cymunedau mwyaf difreintedig.

 

A yw'r rhaglen yn gweithredu'n gyson ledled Cymru

 

13. Ceir canllawiau ar gyflwyno rhaglen Cynllun Gwên yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru (WHS) (2008) 08 ac yn y Llythyr gan Weinidog EH/Ml/032/09.

 

14. Cynhaliodd y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn y ddwy ardal beilot ymchwil, a gwnaeth baratoi adnoddau a datblygu dull rheoli prosiect manwl o gyflwyno'r rhaglen. Sefydlodd y rhaglenni peilot fframwaith caffael Cymru gyfan a datblygwyd ystod eang o adnoddau i ategu'r gwaith o gyflwyno'r prosiect gan gynnwys deunyddiau yn Gymraeg. Talodd hyn ar ei ganfed pan gyflwynwyd y cynllun i weddill Cymru. Mae Cynllun Gwên wedi datblygu brand cryf iawn gan gynnwys gwefan http://www.designedtosmile.co.uk/ .

 

15. Un o fanteision defnyddio timau'r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yw bod ganddynt wybodaeth leol a'u bod yn parhau i fod yn hyblyg i raddau wrth ymateb i angen lleol. Fodd bynnag, mae'r Fforwm Cenedlaethol, sy'n cynnwys pob tîm Cynllun Gwên, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru, yn allweddol i ddatblygu a rhannu arfer gorau, ac i gynnal a chreu'r brand cenedlaethol y gellir ei adnabod yn hawdd. Mae'r Fforwm Cenedlaethol hefyd yn gyfle i safoni llawlyfrau gweithredu, canllawiau a phrotocolau ar lefel Cymru gyfan.

 

Pa mor effeithiol fu'r gwaith o ymestyn y rhaglen

 

16. Pan gyhoeddwyd bod y rhaglen yn cael ei hymestyn ym mis Hydref 2009 cydnabuwyd y byddai'n cymryd amser i dimau'r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol mewn rhai rhannau o Gymru weithredu'r cynllun yn llawn. Felly fe'i rhoddwyd ar waith, ynghyd â'r cyllid, mewn camau a dim ond o 2010/11 y dyrannwyd yr adnoddau yn llawn. Y nod oedd y byddai Cynllun Gwên yn weithredol erbyn 2010/11 mewn ardaloedd o angen ledled Cymru.

 

17. Mae'r ffaith bod y cynllun wedi cael ei gyflwyno mewn ardaloedd peilot i ddechrau yn golygu bod y gwaith gweithredu wedi bod yn llawer mwy datblygedig mewn rhai ardaloedd. Yn ogystal mae adnoddau a staffio'r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol mewn rhannau gwahanol o Gymru ar adeg ymestyn y cynllun wedi cael dylanwad ar hyn.

 

18. Fodd bynnag, mae pob ardal wedi symud y tu hwnt i'r cam cychwyn a gweithredu a bellach yn cyflwyno'r rhaglen, ac mae'r rhaglen yn cael ei hymestyn rywfaint o hyd mewn perthynas â phlant rhwng dim a thair oed. Gan nad yw'r grŵp hwn mewn addysg amser llawn, mae'n anoddach ei dargedu o bosibl. Felly bu'n rhaid gwneud gwaith ychwanegol i greu cysylltiadau ag ymwelwyr iechyd ac eraill yn y gwasanaethau iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol sy'n gweithio gyda phlant.

 

19. Yn y gorffennol mae'r gwaith o hybu iechyd y geg a'i drin wedi defnyddio dull gweithredu tameidiog yn aml. Mae Cynllun Gwên wedi bod yn gyfle i gyflwyno dull Cenedlaethol a chyson ar y cyd â thimau gwasanaethau eraill.

 

A yw'r rhaglen wedi diwallu anghenion pob grŵp o blant

 

20. Mae pydredd dannedd yn fwy cyffredin a difrifol mewn plant o gymunedau difreintiedig. Felly mae Cynllun Gwên yn rhaglen wedi ei thargedu ac nid yw wedi'i hanelu at  bob plentyn yng Nghymru. Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar yr ardaloedd lle mae'r angen mwyaf drwy ystyried lefel y dannedd sydd wedi pydru, sydd ar goll neu sydd wedi cael llenwadau (dmft) mewn Ardaloedd Cynllunio Deintyddol ac amddifadedd yn ôl Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is.

 

21. Fodd bynnag, mae hyblygrwydd o fewn y rhaglen ac mae'r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol mewn sefyllfa dda i gyfrannu at yr angen lleol. Mae hyn yn caniatáu i ysgolion prif ffrwd a sefydliadau eraill megis Unedau Addysg Arbennig gael eu cynnwys pan nad ydynt efallai yn dod o dan y rhaglen yn awtomatig.

 

Y graddau y mae'r rhaglen wedi'i chynnwys mewn mentrau lleol a chenedlaethol ehangacah

 

22. Er y dylid ystyried Cynllun Gwên yn rhaglen ataliol yn gyntaf a rhaglen addysg yn ail mae angen ei chysylltu â rhaglenni Hybu Iechyd eraill yn genedlaethol ac yn lleol. Un o gryfderau'r rhaglen yw ei phwyslais ar gysylltiadau cryf a gwaith partneriaeth rhwng asiantaethau iechyd ac asiantaethau a gwasanaethau eraill h.y. addysg.

 

23. Rydym am weld pob rhaglen Cynllun Gwên leol yn cael ei goruchwylio gan grwpiau llywio lleol y daw eu haelodau o bob cefndir er mwyn sicrhau na chyflwynir y cynllun ar wahân i fentrau hybu iechyd eraill. Aelodaeth y grwpiau llywio lleol ynghyd â thimau Cynllun Gwên y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol a fydd yn bwydo i mewn i'r Fforwm Cenedlaethol. Mae grwpiau llywio eisoes wedi eu sefydlu mewn rhai ardaloedd ac mae gwaith yn mynd rhagddo i atgyfnerthu cydberthnasau gwaith. Mae hwn yn faes a gaiff ei ddatblygu yn ystod cam nesaf cyflwyno Cynllun Gwên ac wrth iddi gael ei chynnwys yn llawn mewn mentrau cenedlaethol a lleol eraill.

 

24. Roedd ail gam gwerthuso'r rhaglen beilot (Rhagfyr 2010) yn cynnwys ymchwilio i'r graddau yr oedd ysgolion yn teimlo bod Cynllun Gwên yn cyd-fynd â'u cwricwlwm a rhaglenni hybu iechyd eraill, ac effaith gyffredinol y cynllun. Mewn arolwg o 298 o ysgolion a gymerodd ran mewn ardaloedd 'uwch-beilot':

 

·         roedd 91% o benaethiaid yn teimlo bod y cynllun yn cyd-fynd yn dda neu'n dda iawn â'u cwricwlwm ysgol cyffredinol;

·         roedd 95% yn teimlo ei fod yn cyd-fynd yn dda neu'n dda iawn â'u mentrau iechyd ehangach; ac

·         roedd 92% yn teimlo bod y cynllun yn brofiad cadarnhaol neu gadarnhaol iawn i'r ysgol gyfan.

 

Goblygiadau i ddeintyddiaeth bediatrig gan gynnwys rôl gryfach y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol ym maes iechyd y cyhoedd mewn perthynas â phlant.

 

25. Mae Cynllun Gwên wedi sefydlu rhaglen ataliol i Gymru gyfan 

sy'n gweld mwy o blant nag erioed o'r blaen yn manteisio'n ddyddiol ar fuddiannau fflworid sydd wedi eu profi'n glinigol. Mae'r cyllid ychwanegol a ddarperir i Fyrddau Iechyd Lleol (BILlau) wedi galluogi'r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol i ddarparu gofal iechyd y geg a'i hybu mewn ardaloedd lle nad yw'r gwasanaethau deintyddol wedi cael eu defnyddio bob tro nac wedi bod ar gael yn hawdd.

 

26. Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ei phenderfyniad i weld timau cyflogedig y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn cael eu cryfhau ym mhob ardal yng Nghymru drwy ymagwedd gydgysylltiedig tuat at gyflawni. Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru nid oes digon o fuddsoddi wedi bod yn y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn y gorffennol. Cafodd y duedd hon ei gwrthdroi a gwelwyd Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol cryfach yn cael ei ddatblygu fel bod gwell cymysgedd o wasanaethau deintyddol ar gael yng Nghymru. Bydd hyn yn sicrhau bod y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn gallu cael gafael ar ofal yn haws.

 

27. Un o amcanion cytundeb Cymru'n Un oedd datblygu'r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yng Nghymru ac ymdrechu o'r newydd i ganolbwyntio ar iechyd y cyhoedd. Mae Cynllun Gwên wedi adfywio'r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol mewn rhannau o Gymru lle roedd yn dirywio. Yn ogystal â gwell adnoddau a chyfarpar, mae'r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol, o ganlyniad uniongyrchol i'r rhaglen, wedi cyflogi aelodau newydd o staff yn yr ardaloedd canlynol:

 

·         Ardal beilot De-ddwyrain Cymru (Caerdydd a'r Fro; Cwm Taf): 33 o aelodau newydd o staff

·         Ardal beilot Gogledd Cymru (Betsi Cadwaladr): 18 o aelodau newydd o staff

·         Ardaloedd mwy newydd (Aneurin Bevan; Hywel Dda; Abertawe Bro Morgannwg;  Powys): 30 o aelodau newydd o staff

·         Cyfanswm: 81 o aelodau newydd o staff

(D.S. Data mis Mawrth 2011 - ddim o reidrwydd yn rhai Cyfwerth ag Amser Cyflawn).

 

 

 

 

Gweithredu yn y dyfodol

 

28. Mae ein Rhaglen Lywodraethu a gyhoeddwyd ym mis Medi 2011 yn cynnwys gweithredu rhaglen Cynllun Gwên fel un o'r camau gweithredu allweddol i wella iechyd y geg ymhlith plant. Cefnogir hyn gan Lywodraeth Cymru drwy roi £3.7 miliwn y flwyddyn i BILlau.

 

29. Yn ogystal rydym yn datblygu Cynllun Iechyd y Geg Cenedlaethol i Gymru. Mae Iechyd y Geg yn rhan bwysig o iechyd cyffredinol, a bydd y Cynllun yn pwysleisio'r angen i atal iechyd y geg gwael yn ogystal â thrin clefyd.   Canolbwyntir yn arbennig ar y grwpiau hynny sydd â lefelau uchel cyson o glefyd, fel plant o dan bump oed, a'r rhai y mae eu iechyd cyffredinol yn eu gwneud yn fwy agored i afiechyd y geg. Bydd y cynllun yn amlwg yn cysoni iechyd y geg ag iechyd y cyhoedd drwy gysylltiadau ag ysmygu, yfed alcohol a maeth plant. Rhan annatod o'r gwaith o gyflwyno'r Cynllun fydd rhaglen Cynllun Gwên.

 

30. Mae angen datblygu a mireinio'r rhaglen ymhellach. Caiff y gwaith o dargedu plant rhwng dim a thair oed ei gynyddu ac atgyfnerthir y cysylltiadau â rhaglenni eraill megis Ysgolion Iach a Dechrau'n Deg i sicrhau camau gweithredu a negeseuon cyson. Fodd bynnag, mae llwyddiannau Cynllun Gwên eisoes yn glir ac rwy'n hyderus y bydd y rhaglen yn cyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen yn ddirfawr o ran iechyd y geg ymhlith plant yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. 

 

 

 

 

 

Lesley Griffiths AC

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Hydref 2011


Atodiad A

 

Data monitro rhagarweiniol ar gyfer Ebrill 2010 - Mawrth 2011

 

Y nifer sydd wedi derbyn y cynllun

·         Ledled Cymru targedwyd cyfanswm o 1,223 o leoliadau (h.y. ysgolion a meithrinfeydd) yn ystod y cyfnod adrodd, gyda 954 o leoliadau yn dilyn y rhaglen brwsio dannedd a 35 o leoliadau eraill yn cytuno i gymryd rhan ond yn gohirio'r rhaglen tan ddyddiad diweddarach.  Yn cyfateb i gyfradd gyfranogi ledled Cymru o 80.9%.

·         Roedd cyfradd gyfranogi'r lleoliadau (gan gynnwys y rhai a ohiriodd) yn amrywio o 94.9% yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i 75.8% yn Hywel Dda.

·         Roedd 439 o leoliadau ychwanegol ledled Cymru yn cymryd rhan yn y rhaglen brwsio dannedd o dan oruchwyliaeth yn ystod y cyfnod adrodd hwn o gymharu ag Ebrill 2009-Mawrth 2010, lle roedd cyfanswm o 515 o ysgolion a meithrinfeydd yn cymryd rhan.

·         Mae'r cynnydd yn fwy dramatig mewn ardaloedd nad ydynt yn rhan o'r cynllun peilot, a oedd yn sefydlu'r rhaglen yn ystod y cyfnod adrodd blaenorol h.y. recriwtio a hyfforddi staff, dod o hyd i safleoedd, rhwydweithio ag ysgolion, meithrinfeydd a phersonél hybu iechyd yn fwy cyffredinol, ac ati.

 

Gweithgarwch

·         Roedd amlder brwsio dannedd bob wythnos a gofnodwyd fel a ganlyn ar gyfer y chwe ardal Bwrdd Iechyd dan sylw (D.S. mae adroddiadau Caerdydd a'r Fro yn cynnwys Cwm Taf):

o   Prifysgol Caerdydd a'r Fro                                      4.89

o   Betsi Cadwaladr                                                       4.58

o   Aneurin Bevan                                                         4.85

o   Hywel Dda                                                                5.00

o   Powys                                                                                    3.94

o   Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg                     4.56

D.S. mae'r data hwn yn seiliedig ar ddetholiad o ddosbarthiadau sy'n cymryd rhan. Mae hefyd yn bwysig nodi bod plant mewn tair ysgol yn Abertawe yn brwsio eu dannedd 10 gwaith yr wythnos, h.y. ddwywaith y dydd, bum gwaith yr wythnos.

·         Mae cyfanswm nifer y plant sy'n brwsio eu dannedd wedi cynyddu 31,290 rhwng y cyfnod adrodd hwn a chyfnod 2009-10. Yn 2009-10 cyfanswm nifer y plant a oedd yn brwsio eu dannedd oedd 30,442.

 

Cyfranogi

·         Ledled Cymru mae 93 o ysgolion wedi dewis peidio â chymryd rhan yn y cynllun rhwng mis Ebrill 2010 a mis Mawrth 2011. Cofnodwyd y niferoedd uchaf o'r rhai a wrthododd gymryd rhan gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan gyda 51 a 21 o wrthodiadau yn y drefn honno. Roedd y rhesymau yn cynnwys materion staffio, awydd i arsylwi ysgolion eraill cyn cymryd rhan neu yn achos un ysgol ni roddwyd unrhyw reswm.

·         Cyfanswm nifer y plant a oedd yn gymwys i gael eu cynnwys ledled Cymru yn y rhaglen brwsio dannedd oedd 66,060; gyda rhieni/gwarcheidwaid yn rhoi caniatâd ar gyfer 62,028 o blant a 61,732 o blant yn brwsio eu dannedd mew gwirionedd yn ystod y cyfnod hwnnw.

·         Y gyfradd gyfranogi ymhlith plant ar gyfer y rhaglen brwsio dannedd yn 2010-11 oedd 93.4%.

 

Y rhaglen ehangach

·         Dosbarthwyd cyfanswm o 137,898 o becynnau cartref mewn 1,053 o leoliadau (D.S. mae hyn yn cynnwys 99 o leoliadau nad oeddent eto yn cymryd rhan yn y rhaglen brwsio dannedd).

·         Ledled Cymru cymerodd 6,265 o rieni ran mewn sesiynau grŵp a 3,514 o rieni ran mewn sesiynau unigol gydag Addysgwr Iechyd y Geg.

·         Cafodd 73,667 o blant sesiynau addysg iechyd y geg ehangach.

·         Cafodd 5,113 o bersonél ysgolion eu hyfforddi i ddysgu sut i frwsio dannedd.  Cymerodd 4,383 o bersonél ysgolion a 739 o bersonél gofal sylfaenol ran mewn sesiynau addysg iechyd y geg ehangach.

·         Cynhaliwyd 3,666 o Asesiadau Ansawdd, roedd angen cymryd camau unioni mewn perthynas â 303 ohonynt ac ar gyfer un cafodd y cynllun ei atal am gyfnod byr.

·         Derbyniodd 6,996 o blant driniaeth ar gyfer selio tyllau yn y geg a chafodd 361 o blant ychwanegol farnais fflworid; ond newydd ddechrau mae elfen olaf y rhaglen hon.


Atodiad B

 

Lleoliad ysgolion sy'n cymryd rhan yn yr ardaloedd uwch-beilot yn ystod y cyfnod adrodd hyd at fis Mawrth 2010, gyda'r ardaloedd amddifadedd lleol wedi'u nodi

 

Welsh Index of Multiple Deprivation – Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

 

Most Deprived– Mwyaf Difreintiedig

Next Most Deprived– Mwyaf Difreintiedig Nesaf;

Median – Canolig;

Next Least Deprived – Lleiaf Difreintiedig Nesaf

Least Deprived– Lleiaf Difreintiedig

 

Participating School– Ysgol sy’n Cymryd Rhan

 

Isle of Anglesey– Ynys Môn

Conwy – Conwy

Gwynedd – Gwynedd

Denbighshire – Sir Ddinbych

Flintshire – Sir y Fflint

Wrexham – Wrecsam

 

Merthyr Tydfil– Merthyr Tudful

Rhondda Cynon Taff– Rhondda Cynon Taf

Bridgend – Pen-y-bont ar Ogwr

The Vale of Glamorgan – Bro Morgannwg

Cardiff – Caerdydd